Grŵp Trawsbleidiol ar Undod rhwng y Cenedlaethau

05 Mehefin 2023 – 11:00 – 12:30pm ar Microsoft Teams

 

Yn bresennol

·         Delyth Jewell AS, Cadeirydd, Senedd Cymru

·         Rachel Bowen, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

·         Dewi John, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

·         Dave McKinney, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

·         Catrin Hedd Jones, Prifysgol Bangor

·         Chris Thomas, COPA

·         Dereck Roberts, NPC Cymru

·         Heather Ferguson, Age Cymru

·         Rhian Angharad Morgan, Age Cymru

·         Hillary Edwards, Caffi Trwsio Cymru

·         Tim Crahart, Shared Lives Plus

·         Carol Maddock, Prifysgol Abertawe

·         Sharon Ford, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

·         Carole Phillips, Kidscape

·         Ellis Peares, WYP

·         Liz Jones, Prifysgol Abertawe

·         Rhun Dafydd, Cronfa Gymunedol y Loteri

·         Mirain Llwyd Roberts, Cyngor Gwynedd

·         Mari-Clare Hunter, Bwrdd Cynghori ENRICH Cymru

Ymddiheuriadau

·         Orla Tarn, NUS Cymru

·         Peredur Owen Griffiths AS, Senedd Cymru

·         Molly Gray, Nuffield Health

·         Dan Steer, Nuffield Health

·         Alan Hatton-Yeo, Sefydliad Beth-Johnson

·         Ceri Cryer, Age Cymru

Camau gweithredu

1.    Dewi John i anfon e-bost at aelodau’n gofyn iddynt am restr o siaradwyr a phwyntiau trafod ar gyfer cyfarfodydd thematig y dyfodol.

2.    Dewi John a Rachel Bowen i greu blaengynllun gwaith ar gyfer y Grŵp ar y themâu y cytunwyd arnynt.

3.    Aelodau i anfon e-bost at Dewi John ag enwau siaradwyr a syniadau polisi ar y themâu penodol ar gyfer y cyfarfod pwnc penodol.

 

Croeso a Chyflwyniadau

Agorodd Delyth Jewell AS y cyfarfod ac eglurodd y byddai’r prif bwyslais ar ddiben y grŵp ar gyfer y dyfodol ac ar lunio blaengynllun gwaith.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Nodwyd a chytunwyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir. Cytunodd yr aelodau. Nododd Heather Ferguson ei bod ers y cyfarfod diwethaf wedi ymgymryd â rôl cadeirydd y grŵp Atal Cwympiadau a gwahoddodd yr aelodau i gysylltu.

Materion yn Codi – Gofod Trafod

Bu aelodau’n rhannu diweddariadau:

Liz Jones – mae’r prosiect Troedrhiwfuwchyn dod i ben ac mae’r ardd wedi cael ei hadfer gyda murlun newydd wedi’i osod. Gwahoddodd Delyth Jewell a’r aelodau i fod yn bresennol yn yr agoriad am 3:30pm ar 6 Gorffennaf. Fel trosolwg byr o’r prosiect, eglurodd fod y pentref cyfan o dan orchymyn prynu gorfodol yn 1985-6 o ganlyniad i archwiliadau i’r tomennydd glo ar ôl trychineb Aberfan a bod yr ardd wedi’i chreu i nodi hanes y pentref.

Eglurodd Dereck Roberts fod NPC Cymru wedi cael ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a bod yr holl aelodau wedi’u hailethol. Bydd NPC Cymru yn canolbwyntio ar fynediad at ofal iechyd, gofal diwedd oes a gwasanaethau gofal a thrwsio. Yn ychwanegol at hyn bydd NPC ac NPC Cymru’n cynhyrchu maniffesto pensiynwyr ar gyfer etholiad cyffredinol 2024.

Dywedodd Deb Morgan ei bod wedi gweithio ar brosiect sy’n edrych ar dechnoleg ddigidol ac anghenion pobl hŷn, sy’n cael ei lansio’n ddiweddarach eleni. Mae Carol Maddock wedi bod yn gweithio â chartrefi gofal a grwpiau ieuenctid i gynhyrchu llyfr comig ar newid yn yr hinsawdd sy’n pontio’r cenedlaethau.

Llongyfarchodd Delyth Jewell Carol ar gynhyrchu’r llyfr a gwahoddodd Carol i’w gyflwyno i’r grŵp. Hefyd gwahoddodd Ellis Peares i weithio â Deb ar y llyfr. (d.j.morgan@swansea.ac.uk)

Bu Cartin Hedd Jones yn rhannu sgwrs a drefnwyd gan CADR ar ddod â chenedlaethau ynghyd.

Cafwyd diweddariad gan Dave McKinney ar yr hyn mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi bod yn ei wneud ar gymunedau oed-gyfeillgar. Eglurodd Dave fod mwy o awdurdodau lleol (Sir y Fflint ac Ynys Môn) yn ymuno â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Ychwanegodd hefyd y bydd swyddfa’r Comisiynydd yn cyhoeddi gwaith ar doiledau cyhoeddus yn ystod yr haf.

Dywedodd Tim Crahart fod Homeshare UK wedi trefnu digwyddiad ers y cyfarfod diwethaf i hyrwyddo cynlluniau peilot Homeshare UK yng Ngwynedd ac Abertawe. Dolenni at y digwyddiadau:

·         Rydych yn adnabod rhywun sydd angen clywed am Homeshare yng Nghymru. Tocynnau Mercher 14 Mehefin 2023 am 12:00 | Eventbrite

·         You already know someone who needs to hear about Homeshare in Wales Tickets, Wed 14 Jun 2023 at 12:00 | Eventbrite

Tynnodd Heather Ferguson sylw at waith Age Cymru ar fathodynnau glas sy’n cysylltu ag allgau digidol a mynediad at wasanaethau. Dywedodd Delyth Jewell fod hon wedi bod yn thema gyffredin yn niweddariadau aelodau sef bod technoleg yn arwain at fwlch rhwng pobl sy’n defnyddio technoleg a’r rhai nad ydynt a bod y bwlch yn tyfu wrth i gymdeithas symud ymlaen ac argymhellodd y gallai hyn fod yn rhan o’r blaengynllun gwaith.

Eglurodd Chris Thomas fod COPA hefyd yn edrych ar allgau digidol fel rhan o’i gynllun gwaith.

Dywedodd Ellis Peares ei fod yn mynd i gyflwyno datganiad 90 eiliad ar fynediad at ddiffibrilyddion mewn cydgyfarfod o Senedd Cymru ar ôl gweithio â Rhun ap Iorwerth AS a Mabon ap Gwynfor AS.

Roedd yn bwysig ehangu’r ddarpariaeth gan fod gan lawer o bobl resymau cudd pam y gallai fod angen diffibriliwr arnynt.

Rhannodd Cartin Hedd Jones ddoleni helpu â datganiad Ellis. Cynigiodd Heather gefnogaeth Age Cymru. Mynegodd bryderon hefyd ynglŷn ag iaith: mae llawer o ddynion dros eu 50au yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli a’u bod wedi mewnoli’r iaith negyddol a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig, fel cael eu disgrifio fel baich. Trafodwyd y pwnc iaith.

Blaenoriaethau ôl-bandemig a diben y grŵp

Eglurodd Delyth Jewell gan fod y grŵp wedi’i sefydlu yn ystod y pandemig, a bod blaenoriaethu bellach wedi newid. Awgrymodd y byddai’n gyfle da i gynhyrchu blaengynllun gwaith ar gyfer y grŵp ac agorodd yr eitem i aelodau i drafod pa themâu yr hoffent ganolbwyntio arnynt. Cytunodd y grŵp i ganolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:

·         Cynhwysiant Cymdeithasol a Dinesig

·         Rhagfarn ar sail oedran/Rhagfarn ar sail oedran yn y cyfryngau

·         Newid yn yr Hinsawdd

·         Cynnwys Cymraeg 2050 ar gyfer cenedlaethau hŷn.

Eglurodd Delyth fod aelodau yn y cyfarfod diwethaf wedi crybwyll y cynnydd mewn rhagfarn ar sail oedran yn y cyfryngau a’r cynnydd mewn naratifau annymunol. Cytunodd yr aelodau yr hoffent edrych ar y mater hwn. Nododd Heather fod naratifau sy’n rhagfarnu ar sail oedran yn digwydd yn achos pobl iau hefyd.

Tynnodd Deb sylw ar erthyglyn y Telegraph ar gyfrifo faint o gyflogau pobl oedd yn mynd i ariannu budd-daliadau fel enghraifft o ennyn drwg deimlad rhwng y cenedlaethau. Cytunodd Deb ac eglurodd fod iaith fel hon wedi arwain at ganlyniadau go iawn.

Rhannodd Cartin Hedd Jones ddolenar bwysigrwydd cyfraniad pobl hŷn at economi Cymru.

Bu’r grŵp yn trafod rhagfarn ar sail oedran yn y cyfryngau a’r diwydiant adloniant.

Roedd Dereck wedi cwyno’n ddiweddar i’r BBC am sylw mewn adroddiad ar bensiynau a’r clo triphlyg lle’r oeddent wedi defnyddio iaith a oedd yn awgrymu bod pobl hŷn yn dwyn arian oddi ar y cenedlaethau iau,

Gofynnwyd i aelodau anfon awgrymiadau at Dewi John ar gyfer pwyntiau trafod a chytunodd siaradwyr ar gyfer themâu’r grŵp â’r syniad.

Awgrymodd Heather Ferguson y dylai’r grŵp edrych ar fysiau: mae mynediad at fysiau’n mynd yn anodd ac mae’n bygwth gallu pobl hŷn i gyrraedd gweithgareddau cymdeithasol ac apwyntiadau gofal iechyd. Ychwanegodd Delyth Jewell fod mater mynediad yn bwysig a bod cysylltiad ag allgau digidol. Awgrymodd hynny fel edefyn.

Awgrymodd Marie-Clare y dylai Cymraeg 2050 fod yn thema: mae rhywbeth ar gael i bobl iau, ond nid i bobl hŷn. Cytunodd Delyth a’r aelodau.

Dywedodd Sharon Ford fod cludiant cyhoeddus hygyrch wedi bod yn thema a gododd yn gyson yn ystod ein hymgynghoriadau Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – neu ei brinder. Mae llawer o bobl yn awyddus i ymweld ag amgueddfeydd, ond nid ydynt i gyd yn hawdd eu cyrraedd. Eglurodd hefyd nad yw Trafnidiaeth Gwasanaeth Brys Gwirfoddol (VEST) yng Nghaerdydd er enghraifft yn gallu derbyn rhagor o archebion tan fis Tachwedd, a bod hynny’n creu rhwystr enfawr rhag ymgysylltu.

Awgrymodd Delyth fod y grŵp yn canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o allgau cymdeithasol a dinesig. Cysylltodd hyn â newid yn yr hinsawdd gan y byddai diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn arwain at fwy o geir ar y ffyrdd. Gofynnodd a hoffai’r grŵp ychwanegu newid yn yr hinsawdd fel maes arall. Cytunodd yr aelodau.

Crynhodd Rachel Bowen yr hyn roedd y grŵp wedi cytuno arno a dywedodd y bydd yn gweithio â Dewi John i greu blaengynllun gwaith ar gyfer y grŵp y bydd yr aelodau’n cytuno arno.

 

Nuffield Health – Cyflwyniad ar Brosiect Heneiddio’n Iach y Cyngor Biofoeseg

Cadwyd yr eitem hon yn ôl tan y cyfarfod nesaf.

Unrhyw fater arall

Gofynnodd Delyth Jewell i’r aelodau a oedd ganddynt unrhyw eitemau eraill i’w trafod. Holodd Catrin Hedd Jones am y llythyr at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni chafwyd dim cyfraniadau nac awgrymiadau ar gyfer y llythyr. Cytunodd Delyth i neilltuo 15 munud i edrych eto ar y mater yn y cyfarfod nesaf.

Cloi a Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Diolchodd Delyth Jewell i’r aelodau am eu cyfraniadau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar X ar Microsoft Teams.